Our mission is to engage and collaborate with people who are socially marginalised and/or who have little or no access to the arts, their heritage.
A Phrydain ac India yn dathlu 70 mlynedd o annibyniaeth yn India, archwiliwn hanesion y menywod sy’n creu rangoli a rhannwn ein canfyddiadau â phobl dros y byd. Down â blas o India i Gymru a rhannwn ddulliau a thechnegau animeiddio a diwylliant Cymru â phobl India.
Gan deithio i Delhi a Rajasthan, bydd ein tîm yn archwilio gwreiddiau rangoli a chwrdd â’r menywod sy’n creu’r gelfyddyd. Craffwn ar hanes rangoli gyda chymorth yr artist Rajni Kiran Jha a’n partneriaid yn y prosiect, Jawahar Kala Kendra, Jaipur a Chanolfan Gynefin India, Delhi.
Celfyddyd hen iawn o India yw rangoli a wneir yn draddodiadol gan fenywod ar draws yr holl wlad. Fel arfer creir patrymau ar y llawr gan ddefnyddio tywod, reis neu flodau lliwiedig. Credir i rangoli ddod â lwc dda.
Gwneir rangoli ar gyfer gwyliau Hindŵaidd a digwyddiadau arbennig eraill. Cynrychiola’r dyluniadau lliwgar fywyd, llên gwerin a diwylliant India.
Defnyddir gwahanol dechnegau a deunyddiau i greu rangoli ac maent yn benodol i wahanol ardaloedd yn India.
Trosglwyddir dyluniadau o genhedlaeth i genhedlaeth gan barhau â’r traddodiad ar hyd y canrifoedd. Mae menywod o bob oed, o bob crefydd ac o bob haenen o’r gymdeithas yn creu rangoli gan bontio rhaniadau cymdeithasol a diwylliannol.
We are a not-for-profit animation and media education organisation based in Cardiff.
Our mission is to engage and collaborate with people who are socially marginalised and/or who have little or no access to the arts, their heritage, animation and filmmaking, and to showcase talent within a supportive environment.
Visit www.windingsnake.com to find out more.