Story: Amy Morris - Winding Snake
Cyfarfûm â’m partner, Glen, mewn digwyddiad arddangos talent gelfyddydol yng Nghasnewydd. Rheolwr llwyfan ar fy liwt fy hun oeddwn i ac roedd Glen yn gadeirydd y gymdeithas gelfyddydol a gynhaliai’r digwyddiad.
Ar y pryd canolbwynt fy mywyd oedd fy ngyrfa ond ar ôl cwrdd â Glen newidiodd fy nghylch cydnabod yn llwyr. Drwy’r holl bobl newydd hyn, deuthum i sylweddoli bod ffordd arall i fyw. Yno dysgais lawer gan artistiaid, cerddorion, awduron a pherfformwyr. Roeddynt bob un yn rhagweithiol eu creadigrwydd.
Chwaraeodd y bobl hyn, a aeth yn gyfeillion mawr, ran bwysig yn fy mywyd. Oherwydd y rhain, mi ydwyf y person yr ydwyf.
View Story Archive