Story: Jafar Iqbal – yn mynd yn fwy allblyg
Fi yw’r enghraifft orau o rym trawsnewidiol y celfyddydau a’r brifysgol. Am ddwy flynedd o’m cwrs bûm yn Neuadd Bretton, campws seiliedig ar berfformiad yng nghefn gwlad Gorllewin Swydd Efrog.
Roeddwn yn fachgen swil a thawel o deulu clos, ac ychydig iawn o brofiad o’r byd mawr a oedd gennyf. Yn sydyn roeddwn yn byw, astudio a chwarae ochr yn ochr ag actorion, dawnswyr, cantorion, cerddorion ac artistiaid cyffrous ac angerddol. Roeddynt yn fodd imi ddatgloi fy nghreadigrwydd a’r hyder i archwilio fy nychymyg. Erbyn hyn rwy’n awdur a beirniad theatr.
Roedd yn brofiad a newidiodd fy mywyd, un a’m trodd yn artist. Mae’r bobl o’r cyfnod hwnnw’n gyfeillion agos imi hyd heddiw.
View Story Archive